Cylch yr Ifanc
Mae Cylch yr Ifanc yn glwb i bobl ifanc oed ysgol uwchradd sy’n cyfarfod bob bythefnos yn Festri capel Moriah rhwng mis Hydref a’r Pasg ac ambell waith yn ystod yr haf. Fe sefydlwyd y Cylch yn 1976 a diwedd eleni byddwn yn dechrau ar ddathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu. Mae nifer yr aelodau’n llai nag yn y gorffennol ond byddwn yn mwynhau’r cyfarfodydd yn fawr iawn ac yn dysgu llawer wrth fynychu’r gwahanol weithgareddau.
Addoldy Moriah
Capel Moriah ydi capel Methodistiaid Calfinaidd y pentref. Yn 2004, oherwydd maint costau cynnal yr adeilad a lleihad yn nifer yr aelodau, fe werthwyd y capel ei hun a bu i’r aelodau addasu’r festri i’w ddefnyddio fel addoldy yn ei le.
Mae oedfa bob bore Sul am 10 o’r gloch, ac yna Ysgol Sul wedyn am 11; mae Cylch yr Ifanc (uchod) yn ddilyniant i’r Ysgol Sul. Bob yn ail nos Fawrth yn ystod y gaeaf mae’r capel yn cynnal te a bwrdd moes a phryn. Bydd hefyd yn cynnal noson goffi bob blwyddyn ar ail nos Wener mis Hydref.
Yr Ysgol Sul
Mae criw ffyddlon o naw yn mynychu’r Ysgol Sul ac yn cael eu dysgu gan yr athrawon Mair Davies, Helen Roberts, Alma D. Roberts ac Anna W. Hughes sydd hefyd yn Ysgrifennydd yr Ysgol. Mae’r Ysgol yn cynnal tri gwasanaeth plant bob blwyddyn, sef Sul y Briallu ym mis Mai pan fydd y plant yn cael eu gwobrwyo am ddysgu safonau ar eu cof, y gwasanaeth Diolchgarwch ym mis Hydref pan fydd y plant yn dosbarthu ffrwythau a llysiau i bobl glaf y pentref, a gwasanaeth Nadolig, fydd yn cael ei ddilyn gan ymweliad oddi wrth Siôn Corn. Bydd yr Ysgol yn cyfrannu at wahanol achosion da bob blwyddyn; yr achos eleni oedd Ysbyty Goffa Blaenau Ffestiniog. Bydd hefyd trip i’r plant bob haf.
Eglwys Sant Gwyddelan (Eglwys y Gwyddel bach / Eglwys y Gwyddel annwyl)
Yng nghanol y pentref, mewn lle tawel ac o’r golwg, mae Eglwys Gwyddelan. Mae’r eglwys yn un hynafol, wedi ei adeiladu dros 500 mlynedd yn ôl, ac yn parhau’n addoldy hyd heddiw. Mae yno 45 o aelodau gydag oddeutu 25 i 35 o’r rheiny’n mynychu’r gwasanaethau dwyieithog a fydd yn cael eu cynnal bob bore Sul am 9.30. Mae’r gynulleidfa’n gweithio’n galed iawn i gynnal yr achos ac mae croeso i bawb ymweld â’r eglwys. Bydd gwasanaeth Cristingl bob Noswyl Nadolig, ar ddydd Mawrth Ynyd mae yna Fingo a phob mis Awst bydd naill ai penwythnos agored gyda stondinau a lluniaeth ysgafn neu Ŵyl Flodau i godi arian at gostau cynnal a chadw’r adeilad.
Mae gan yr eglwys ddwy Warden, sef y Fns. Shirley Hambridge a’r Fns. Ruth Houston, fydd yn cynorthwyo’r Ficer yn ystod y gwasanaethau ac o gwmpas y plwyf. Trysorydd yr eglwys ydi’r Fns. Deidre Southgate a’i Hysgrifennydd ydi’r Fns. Ann Fellows. Organydd yr eglwys ydi’r Fns. Georgina Jones sydd wedi cyfeilio i’r gwasanaethau ers dros drigain mlynedd – ac mae’n rhaid bod hynny’n record!
Ar ddiwedd 2006 fe benodwyd y Parchedig Dad Clive Hillman S.C.P. yn Ficer y plwyf, sy’n cynnwys pentrefi ac ardaloedd Dolwyddelan, Betws y Coed, Penmachno a Chapel Curig.
Capel Bethel
Bethel ydi Capel Annibynwyr Dolwyddelan ac yn 2007 fe ddathlwyd canmlwyddiant codi’r adeilad presennol. Gweinidog olaf yr Eglwys oedd y diweddar Barchedig Elwyn P. Howells ac ers ei ymadawiad i Siloh, Cwmgwrach, bu’r eglwys yn ffodus o wasanaeth Gweinidogion a phregethwyr cynorthwyol yr ardal, sy’n parhau’n arbennig o ffyddlon i’r achos. Mae’r capel wedi bod yn llewyrchus iawn ac, er mai nifer fach o aelodau a phlant sydd ar hyn o bryd, bydd oedfaon bob prynhawn Sul o fis Mawrth ymlaen a drws agored i bawb.
Ysgol Dolwyddelan
Mae nifer o blant ifanc yn y pentref ac mae’r rhagolygon ar gyfer y niferoedd yn bur dda.
Cynhelir amrywiol weithgareddau ychwanegol fel rhan o gwricwlwm yr ysgol gan gynnwys:
Ym maes chwaraeon: gymnasteg, peldroed, rygbi, athletau, nofio, Campau’r Ddraig.
Ac o ran gweithgareddau’r Urdd:
Mae cyfarfodydd yr Urdd yn cael eu cynnal ar ôl oriau ysgol bob bythefnos o fis Hydref tan fis Mai i blant 7 i 11 oed. Ceir amrywiaeth o weithgareddau – gemau, cwis, cystadlaethau, a bydd siaradwyr yn cael eu gwahodd i gynnal nosweithiau. Mae’r ysgol wedi bod yn llwyddiannus iawn yng nghystadlaethau chwaraeon yr Urdd yn enwedig mewn gymnasteg. Hefyd bydd y plant yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd gan gystadlu mewn cystadlaethau canu, llefaru a cherdd dant. Eleni bu’r plant yn llwyddiannus gan ddod yn ail yn yr Eisteddfod Sir.
Cylch Ti a Fi
Dechreuodd y Cylch fel Ysgol Feithrin ond mae o bellach, ers rhai blynyddoedd, yn Gylch Ti a Fi. Bydd dau sesiwn Ti a Fi bob wythnos, un ar brynhawn dydd Mawrth a’r llall ar fore dydd Iau, yn y Ganolfan. Mae cost mynychu’n £1.20 y sesiwn.
Mae 13 o blant ar y llyfrau ar hyn o bryd. Mae’n gyfle gwych i’r plant ymgyfarwyddo â’r ysgol a dod i adnabod yr athrawon a fydd yn eu dysgu pan fyddan nhw’n dair mlwydd oed ac yn mynd am hanner diwrnod i’r dosbarth meithrin.
Ysgol Dyffryn Conwy Llanrwst
Wedi gorffen yn yr ysgol gynradd bydd plant y pentref yn mynd yn eu blaen i Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst. Bydd tua 30 o ddisgyblion yn dal y bws rhad ac am ddim am 8.15 y bore ac yn dychwelyd am 4 o’r gloch y prynhawn.
Hyd at yn ddiweddar roedd Ysgol Dyffryn Conwy yn ysgol ddwy safle, gyda disgyblion blynyddoed 7 i 9 ar safle Ffordd Cae’r Melwr, a blynyddoedd 10 i 13 ar safle Ffordd Tan yr Ysgol. Erbyn hyn mae’r ysgol ar un safle yn Ffordd Cae’r Melwr yn dilyn gwaith i ychwanegu at yr adeiladau yno.
Mae’r disgyblion yn aros yn yr ysgol hyd at flwyddyn 11, ond yna’n cael dewis aros yn y chweched dosbarth i astudio i Safon Uwch (Lefel A) neu fynd i goleg addysg bellach.
Y Ganolfan Gymdeithasol
Mae’r Ganolfan Gymdeithasol yn rhan o Ysgol Gymunedol Dolwyddelan ac mae neuadd a chegin fach yr ysgol yn adnoddau cymunedol. Mae Pwyllgor y Ganolfan yn trefnu amryw weithgareddau, yn eu plith y Carnifal, uchafbwynt y flwyddyn, lle bydd stondinau ar iard yr ysgol, amrywiol gystadlaethau’n cynnwys cystadleuaeth wisg ffansi a gorymdaith a seremoni coroni Brenhines y Carnifal.
Mae’r berthynas rhwng yr Ysgol a’r Ganolfan yn un dda ac mae sawl un o gymdeithasau a grwpiau’r pentref yn defnyddio’r ganolfan. Yn eu plith mae:
- Clwb Siôn a Siân
- Y Cyngor Cymuned
- Clwb Godre’r Foel
- Y Gymdeithas Hanes
- Y Clwb Arlunio
- Y Cylch Ti a Fi (sy’n cyfarfod ddwywaith yr wythnos)
- Cymdeithas y Gerddi (sy’n gyfrifol am drefnu’r Sioe Erddi)
Cyngor Cymuned Dolwyddelan
Mae’r Cyngor yn cyfarfod bob yn ail fis, 6 gwaith y flwyddyn, ar ddydd Iau cyntaf y mis yn y Ganolfan Gymdeithasol. Yn diweddar y prif faterion dan sylw oedd gwelliannau i dir y Gofeb, arafu’r drafnidiaeth drwy’r pentref, ystyried ceisiadau cynllunio yn yr ardal a phrosiect Tai fforddiadwy ar gyfer yr ardal.
Mae’r Cyngor Cymuned yn gweithredu oddi mewn i Fwrdeistref Sirol Conwy ac yn cynnwys ardaloedd Dolwyddelan, Pont y Pant a Phont Rhufeinig. Mae dwy stad dai yn ardal y Cyngor, sef Maes y Llan a Maes y Braich, pedair byngalo henoed yn Nhanrallt a dau dŷ ym Mhentrefelin. Mae’r rhain dan ofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chymdeithas Dai Cynefin. Mae hefyd pum tŷ ym Mandle Terrace yng ngofal Ymddiriedolwyr Tai Elusen Ellis Evans.
Y Clwb Coffi
Bob bore Mawrth mae criw o’r pentrefwyr yn dod at ei gilydd am baned o goffi a sgwrs yn y Clwb Coffi. Eunice Cawley gychwynnodd y clwb ugain mlynedd yn ôl yn y caffi a arferai ei redeg ar sgwâr y pentref, ac yna’n ddiweddarach yn ei chartref ym Mhenlan. Erbyn hyn mae’r criw yn cyfarfod yn y Pafiliwn Cymunedol. Mae’r Clwb yn cynnal raffl wythnosol, a dros y blynyddoedd maen nhw wedi hel miloedd o bunnoedd at achosion da. Ar ddechrau’r flwyddyn hon fe gyflwynwyd £775 i Bwyllgor Cyfeillion Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog ac fe gasglwyd £700 ar gyfer cronfa SARDA, sef Cymdeithas y Cŵn Achub.
Y Dosbarth Arlunio
Mae’r dosbarth arlunio dan ofal Robin Robbins. Caiff ei gynnal bob dydd Mercher yn y Ganolfan ac mae chwech o bobl yn ei fynychu.
Bydd yr aelodau i’w gweld o amgylch y pentref yn darlunio llefydd a gwrthrychau diddorol. Mae eu gwaith i’w weld ar wal y gegin fach yn yr ysgol.
Byddant hefyd yn ymweld ag orielau lleol ac yn mynd am ginio Nadolig gyda’i gilydd.
Clwb Siôn a Siân
Mae Clwb Siôn a Siân yn glwb i bensiynwyr. Mae’r flwyddyn weithgareddau’n dechrau ym mis Mawrth a bydd yr aelodau’n cyfarfod bob pythefnos o hynny ymlaen hyd at mis Rhagfyr, yn y Ganolfan. Mae’r clwb wedi bod yn mynd ers sawl blwyddyn bellach ac ar hyn o bryd mae yna fwy nag 20 o aelodau.
Cymdeithas y Gerddi
Cymdeithas y Gerddi sy’n gyfrifol am drefnu’r Sioe Erddi fydd yn cael ei gynnal bod blwyddyn ar ddydd Sadwrn cyntaf mis Medi yn y Ganolfan a’r Ysgol. Mae chwe adran i’r cystadlu: cynnyrch gardd (lleol ac agored); cynnyrch fferm; coginio; ffotograffiaeth; a gwaith y plant.
Bydd y Gymdeithas hefyd yn cynnal Noson Goffi bob blwyddyn i godi arian i dalu costau cynnal ei gweithgareddau.
Sefydliad y Merched
Dechreuwyd Cangen Sefydliad y Merched Dolwyddelan yn y flwyddyn 1946 ac yn 2006 bu iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 60 oed. I gofio’r achlysur fe benderfynwyd creu gardd gerrig yng ngardd yr orsaf leol. Fe fu i rai o’r aelodau gymryd rhan hefyd yng nghystadleuaeth gwisg ffansi carnifal y flwyddyn honno drwy wisgo fel pobl o’r 1940au. Yna ym mis Hydref fe aeth bawb am bryd o fwyd blasus i fwyty’r Ysgubor Wen ym Maentwrog. Mae’r Gangen yn cyfarfod yn y Ganolfan ar ddydd Gwener cyntaf bob mis.
Clwb Godre’r Foel
Mae Clwb Godre’r Foel yn glwb i’r rhai sydd wedi mynd yn rhy hen i’r Clwb Ieuenctid ond sy’n dal yn dymuno cyfarfod â’i gilydd a chynnal gweithgareddau. Ffurfiwyd y clwb yn yr 1970au a bydd yr aelodau’n cyfarfod yn y Ganolfan Gymdeithasol bob nos Fercher olaf y mis rhwng mis Hydref a’r Pasg. Yn ystod misoedd yr Haf byddant yn mynd ar deithiau cerdded. Ers dwy flynedd bellach yr aelodau sydd wedi bod yn gyfrifol am drefnu’r gweithgareddau, gyda gwahanol ddau’n trefnu bob noson. Mae hwn yn drefniant sy’n gweithio’n dda iawn.
Cymdeithas Bysgota Dolwyddelan
Mae gan Gymdeithas Bysgota Dolwyddelan hawliau pysgota ar sawl rhan o’r Lledr, sef y rhannau hynny ger Bryn Moel, Tŷ Isaf, Bryn Mwllach, Dolmurcoch a Chae’r Eglwys ym Mhont y Pant. Mae hi hefyd yn rhentu hawliau pysgota Dôl y Pentref a chaeau chwarae Pont y Pant rhwng Pont yr Afon a Phont y Pant.
Ffurfiwyd y Gymdeithas ar ddechrau 1940, yn bennaf gan bobl leol, ond er mwyn chwyddo’r coffrau a helpu talu’r rhenti, fe ehangwyd y cylch aelodaeth i gynnwys ymwelwyr a oedd yn prynu tocynnau tymor, ymwelwyr ar ymweliad wythnos a pherchnogion tai haf.
Pysgota eog a brithyll sydd i’w gael yn bennaf ac mae haig dda o eog i’w chael yn yr afon o’n gynnar ym mis Medi hyd at ddiwedd y tymor ar Hydref yr 17eg. Bydd pysgota am frithyll môr (gleisiad) yn digwydd gyda’r nos. Mae’r aelodaeth wedi aros yn eithaf cyson dros y blynyddoedd diwethaf gydag oddeutu pymtheg o aelodau lleol a rhwng 15 a 17 arall sy’n ymwelwyr.
Y Treialon Cŵn Defaid
Cynhelir Treialon Cŵn Defaid Dolwyddelan yn flynyddol ar yr ail neu’r trydydd penwythnos o fis Medi ar gaeau Tŷ Isaf. Mae tri dosbarth:
- Y Dosbarth Lleol – yn agored i bawb sydd wedi ei eni neu’n byw yn y plwyf.
- Yr Ail Ddosbarth – yn agored i gŵn sydd heb eu gwobrwyo yn y dosbarth agored.
- Y Dosbarth Cyntaf – yn agored i bawb ac fel arfer yn cael ei redeg drwy’r dydd Sadwrn gydag oddeutu 60 i 80 o gŵn yn cystadlu.
Cymdeithas Hanes Dolwyddelan
Mae’r Gymdeithas Hanes yn gymdeithas gymharol newydd a gafodd ei sefydlu ym mis Chwefror 2004. Yr oedd gan Margaret Mullard, Greystones, ddiddordeb mawr yn yr hanes lleol, a hi, ynghyd â W. T. Jones oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu’r Gymdeithas. Bydd y Gymdeithas yn cyfarfod yn y Ganolfan ar y nos Lun cyntaf o bob mis, o fis Medi hyd at fis Ebrill, ond bydd hi ddim yn cyfarfod ym mis Ionawr.
Derbyniodd y Gymdeithas grant o £5,000 tuag at waith atgyfnerthu’r waliau a ddaeth i’r golwg yn ystod y gwaith archeolegol a gynhaliwyd yn ystod y tair blynedd diwethaf ar safle Tai Penamen, hen gartref Maredudd ab Ieuan sylfaenydd teulu Wynniaid Gwydir. Roedd yn grant gan y Loteri o’u cronfa ‘Arian i Bawb’.
Mae’r Cadeirydd, W.T. Jones wedi gweithio’n galed iawn ar y cynllun, ac mae’n hynod o ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr sy’n ei gynorthwyo ac i Barc Cenedlaethol Eryri a’r Comisiwn Coedwigaeth am eu cymorth hwythau gyda’r gwaith. Yn sgîl derbyn y grant, mae’n teimlo bod dyfodol disglair i’r hen dai.
Menter Siabod
Mae Menter Siabod yn Grŵp Gweithredu Cymunedol sy’n gweithio mewn partneriaeth â grwpiau eraill yn y pentref a’r Cyngor Cymuned. Fe sefydlwyd y Fenter yn dilyn gwerthusiad cymunedol a gynhaliwyd yn 2003.
Bu’r Fenter yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill yn 2006 i gwblhau’r llwybr troed i fyny at y castell, ac i gael arwyddion newydd yn cynnwys logo’r Parc Cenedlaethol ar y ffordd fawr ger Pont Arenig ac ym mhen arall y pentref wrth ddod o Fetws y Coed.
Gweithiodd Menter Siabod gyda Chronfa Allweddol Treftadaeth Wledig Conwy a’r Cyngor Cymuned i adnewyddu’r Gofgolofn ac mae disgwyl gweld Panel Dehongli yn dangos hanes y safle yno cyn bo hir.
Mae’r Fenter hefyd yn cyhoeddi cylchlythyr i hysbysu’r gymuned ynglŷn â’r prosiectau sy’n cael eu datblygu yn y pentref.
Bu iddi adnewyddu’r Pafiliwn yng nghae’r ysgol gyda grant o £71,000 oddi wrth Raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol y Llywodraeth. Ffurfiwyd hefyd is-grŵp, sef Dolwyddelan yn ei Flodau, o ganlyniad i sylwadau a gafwyd yn y gwerthusiad a enillodd ddwy wobr yn 2006, un gan gwmni Arriva Trains am “yr orsaf gymunedol a welodd y gwelliant mwyaf” ym Mhrydain, a’r llall yn Wobr Teilyngdod yng nghategori Cymdogaeth “Cymru yn ei Blodau”.
This post is also available in: English