Daeth yr arian ar gyfer y bont newydd oddi wrth Bob Borzello, sefydlwr y Camden Trust, sydd â thŷ ym Mhont Rufeinig. Codwyd y bont dderw yn 2010 ger llwybr rhif 33 yn lle’r hen bont droed oedd wedi dirywio ac yn gallu bod yn beryg.
Arweiniwyd y gwaith gan Helena Bacon, ac mae cerddi gan Menna Elfyn a Paul Henry wedi eu naddu ar lechi’r grisiau yn nau ben y bont.
Os hoffech noddi’r Camden Trust i’w helpu codi mwy o bontydd, camfeydd neu arwyddion, ysgrifennwch at Bob Borzello, The Camden Trust, 43 Camden Passage, Llundain, N1 8EA
This post is also available in: English