www.hotelinsnowdonia.co.uk www.facebook.com/ElensCastle
Mae Gwesty Elen’s Castle wedi ennill gwobr arall yn ddiweddar…
Ysgrifennodd Helen Hardy –
Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn Gwobr Arian y Green Business Award! Gyda mwy na 2000 o aelodau ar draws Prydain, Iwerddon a Chanada, hon ydi’r rhaglen graddio cynaliadwyedd cenedlaethol fwyaf a mwyaf dilys yn y byd.
Mae gwahanol lywodraethau Prydain i gyd yn cydnabod bod Twristiaeth Werdd yn rhan bwysig o’r symudiad tuag at greu gwlad gynaliadwy. Amcan y rhaglen ydi adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd eisoes er mwyn sicrhau bod Prydain yn aros ar y blaen yn y maes twristiaeth cynaliadwy ac yn gallu hyrwyddo’r neges ar draws y byd.
Am fwy o wybodaeth: www.green-tourism.com
This post is also available in: English