Tirwedd amrywiol, heriau technegol a golygfeydd godidog. Dyma rai o’r pethau y dewch chi ar eu traws wrth groesi’r dy rynnoedd rhwng Dolwyddelan a Chapel Curig.
Pellter: 9.4km
Safon: Cymedrol i anodd
Codi: 291 m
Disgyn: 244m
Amser: awr (i ymuno â’r llwybrau beicio mynydd)
OS © Hawlfraint y Goron 2016
Gadewch faes parcio’r orsaf a beicio ar hyd yr afon Lledr sy’n llifo’n dawel gerllaw. Croeswch yr afon dros hen bont y chwarel wyr ac yna croeswch yr A470 (gofal – ordd brysur). Yn syth ar ôl gwneud hyn ymunwch â llwybr coedwigol llydan sy’n crwydro ar i fyny tuag at Foel Siabod. Dilynwch yr arwyddion at gyrion y goedwig ac yna dros rostir agored lle mae’r golygfeydd yn ymagor o’ch blaen. Mae’r llwybr yna’n mynd ar i lawr ac yn troi’n weddol dechnegol (cerddwch os nad ydych chi’n ddigon pro adol neu os nad oes gennych chi’r o er addas). Yn y man fe ddewch chi at ordd gefn ddymunol sy’n ymuno â’r A5 ger y Tŷ Hyll. Beiciwch i fyny’r ordd serth gydag ochr y ca i ymuno â llwybrau beicio mynydd y Marin.
Ewch i www.forestry.gov.uk/marin i weld mapiau o’r llwybrau. Gall beicwyr mwy anturus droi yn ymyl yr arwydd gyntaf i wneud dolen gy awn (2-4awr) neu dilynwch yr un ordd yn ôl neu ymuno â ordd gefn ddymunol sy’n mynd i Fetws-y-Coed. Fel arall, ewch ychydig pellach ar hyd y ordd ac ymuno â dolenni llai o lwybr y Marin cyn dewis ordd yn ôl i Ddolwyddelan.
This post is also available in: English