Mae cydweithfa fwyd yn cynnig ffordd syml i brynu ffrwythau a llysiau ffresh yn rhad tra’n cefnogi busnesau lleol ar yr un pryd. Mae yna gydweithfa fwyd gymunedol ymhob rhan o ogledd Cymru, ac mae ein un ni yn Nolwyddelan yng ngofal y swynol Kirsty Jones.
Mae’r cynnyrch sy’n cael ei werthu drwy’r gydweithfa i gyd yn dod o ffermwyr, siopau a chyfanwerthwyr lleol, sy’n dewis y ffrwythau a’r llysiau yn ôl eu tymor, yn ôl beth sydd ar gael, ac yn ôl gwerth am arian.
Mae pedwar math o fag:
Bag Ffrwythau – Bag Llysiau – Bag Salad
sydd i gyd yn £3 y bag
—
a Bag Bara sy’n £4.50
I ARCHEBU
Mae angen archebu a thalu o flaen llaw, ac fe allwch chi wneud hynny naill ai drwy gysylltu â Kirsty ar kirsty_jones0783@yahoo.com neu drwy ofyn iddi eich ychwanegu chi at grŵp Gweplyfr/Facebook y Gydweithfa.
Fe allwch chi archebu cymaint neu gyn lleied o fagiau ag sydd eu hangen arnoch chi a, gan fod yr archeb yn un wythnosol, mae o’n iawn methu wythnos. Cofiwch bod yn rhaid talu wrth archebu.
Mae’r bagiau’n cael eu paratoi ar brynhawn ddydd Iau neu fore Gwener yn y Pafiliwn, ac unwaith y cewch chi neges i ddweud eu bod nhw’n barod fe allwch chi fynd i’w nôl nhw. Mae croeso i chi roi eich archeb ar gyfer yr wythnos nesaf pan fyddwch chi’n nôl eich bagiau.
Bwyd lleol i’r bobl leol: Darparu bwyd ar gyfer cydweithfeydd ac
ymweld â chydweithfa fwyd ym Mlaenau Ffestiniog.
This post is also available in: English