Dolwyddelan

Mae Dolwyddelan yn adnabyddus am ei gastell mawreddog 13eg Ganrif sy’n sefyll ar graig uwchben y pentref ac yng nghysgod Moel Siabod. Dyma fan geni Llywelyn ap Iorwerth, Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymreig olaf Cymru.

Yng nghanol y pentref mae Eglwys Sant Gwyddelan, a adeiladwyd yn y 15ed ganrif. Roedd eglwys wedi bod yn Nolwyddelan am ganrifoedd cyn hynny, un pren, ar Fryn y Bedd, bryncyn heb fod ymhell o’r castell. Codwyd yr un ‘newydd’ gan Faredudd ab Ieuan, un o gyndadau teulu Wynniaid Llanrwst, a hynny yn ôl y sôn er mwyn gallu gwylio rhag ymosodiadau ar ei diroedd a’i dŷ newydd yng Nghwm Penamnen tra’i fod o’n addoli!

Y tu mewn i’r eglwys fe welwch chi Gloch Gwyddelan, cloch y daeth Sant Gwyddelan â hi yma o’r Iwerddon yn y 7ed ganrif. Sylwch hefyd ar y sedd ar gyfer y trwm eu clyw yn nhu blaen yr eglwys ag arni’r geiriau “I’r dyla’ ei glyw”. Hefyd, ar un o drawstiau ochr ogleddol yr eglwys mae cerflun o ddraig Dolwyddelan.

Mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus Dolwyddelan yn rhagorol; mae gwasanaeth bws a thrên rheolaidd, ac i berchnogion ceir mae digonedd a lefydd parcio rhad ac am ddim. Mae yma doiledau cyhoeddus a rhwydwaith ffôn symudol dda iawn.  Ar ôl bod am dro beth am ymweld â’r warchodfa natur fach sydd yn ymyl yr orsaf drenau, un sydd wedi ennill sawl gwobr, i gael picnic. Neu beth am alw heibio siop y pentref neu dafarn y Gwydyr neu fwyty Gwesty Castell Elan am bryd o fwyd cynnes? 

IMG_20141208_110924356_HDR

This post is also available in: English