Mae Map Beicio Dolwyddelan yn dangos y llwybrau beicio traws gwlad sy’n mynd ar hyd llwybrau llydan y goedwig. Mae modd defnyddio’r llwybrau hyn i archwilio’r fro, i ymweld â’r pentre cyfagos neu i fwynhau diwrnod cyfan o feicio llwybrau mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.
Mae pentref Dolwyddelan yn swatio ym mhrydferthwch dy ryn Lledr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Gerllaw mae Coed Gwydir a phentre Betws-y-Coed, Penmachno, a Chapel Curig. Mae rhwydwaith o lwybrau coedwigol a lonydd tawel yn cysylltu’r pentre â’i gilydd, heb angho o wrth gwrs am y bysus a’r trenau.
Mae Dolwyddelan wedi datblygu’n gyrchfan i feicwyr oddi ar y ordd gyda llwybrau o’r pentref yn cysylltu dy rynnoedd y Lledr, y Llugwy a’r Machno. Gall yr ardal hefyd ymfalchïo yn ei lleoliad canolog rhwng tri chy euster beicio mynydd o fri; llwybrau adnabyddus y Marin, llwybrau heriol Penmachno a llwybrau lawr allt arswydus Antur Stiniog ym Mlaenau Ffestiniog. Os oes awydd ychydig o antur arnoch chi fe allwch chi feicio at un o’r llwybrau beicio mynydd, gwibio a sgrialu ar hyd y traciau cul a dod yn ôl i’r pentref ar hyd llwybr arall o’ch dewis.
OS © Hawlfraint y Goron 2016
This post is also available in: English