CLWB CELF ERYRI
Y Pafiliwn
Dolwyddelan
Rydym yn griw bychan o artistiaid sy’n cwrdd i beintio gyda’n gilydd ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis o 10:00 y bore tan 4:00 y pnawn ac yn edrych am aelodau newydd!
Rydym ni’n cwrdd ym Mhafiliwn Dolwyddelan sy’n glyd a chysurus a lle mae digon o olygfeydd braf o’n cwmpas i’w peintio.
Rydym yn dod â’n cinio ein hunain ond mae digonedd o baneidiau ar gael yn y Pafiliwn.
Ein hysgrifenyddes ydy Ann Fellows. Bu hi’n rhedeg gwyliau peintio Brush-Strokes am bymtheg mlynedd ond bellach wedi ymddeol. Mae hi wastad wrth law yn ystod y dydd i roi help llaw neu air o gyngor. Rydym yn aelodau cyswllt o Gymdeithas yr Holl Artistiaid (The Society of All Artists) sef cymdeithas Brydeinig ar gyfer artistiaid. Fodd bynnag, does dim angen bod yn aelod o’r gymdeithas i ymuno â’n clwb ni.
Dydy’r Pafiliwn yn ddim ond ychydig gamau o Orsaf Dolwyddelan (sydd bron iawn ar riniog y drws). Mae arhosfa bws yn ymyl hefyd – ar y ffordd fawr sy’n mynd drwy’r pentref.
Os ydych chi’n artist (neu’n ystyried dechrau peintio) ac yn awyddus i gwrdd â phobl o’r un anian, dewch draw am sgwrs ac i weld beth sy’n digwydd yma!
I wybod mwy am y Clwb ffoniwch Ann ar 01690 750488, neu ebostiwch annfellows@hotmail.co.uk
This post is also available in: English