Adeiladwyd castell pren gwreiddiol Dolwyddelan ar fryncyn creigiog ar lawr y dyffryn islaw’r castell presennol. Mae’r bryncyn coediog lle safodd yr hen gastell i’w weld yn glir heddiw. Yno yn y castell pren y ganwyd Llywelyn Fawr (1172-1240)
Llywelyn oedd yn gyfrifol am adeiladu castell presennol Dolwyddelan a hynny oddeutu’r flwyddyn 1210. Bu Llywelyn yn dywysog Gwynedd (gogledd Cymru i gyd yr adeg hynny) ac yn ddiweddarach Cymru gyfan – i bob pwrpas – am ddeugain mlynedd. Cafodd y tŵr sgwâr ei adfer i’w gyflwr presennol yn ystod Oes Fictoria.
Codwyd wal o gwmpas y libart yn niwedd y 13eg ganrif ac ychwanegwyd ail dŵr gan Edward y 1af ym 1283. Dim ond adfeilion o’r ail dŵr sydd i’w gweld heddiw.
Mae’r castell uwchben y ffordd ar yr ochr dde wrth i chi yrru ar hyd yr A470 allan o Ddolwyddelan i gyfeiriad Blaenau Ffestiniog. Mae o oddeutu 5 milltir o Fetws y Coed.
Bywyd mewn castell yn ystod yr oesoedd canol:
Y Neuadd – Roedd y neuaddau cynnar yn debyg oddi mewn i eglwysi, gyda rhesi o byst pren neu bileri carreg yn cynnal to pren. Roedd drysau pren ar y ffenestri ac roedd gwydr yn anghyffredin tan yr 14eg ganrif. Byddai brithlenni (carpedi tapestri) ar y waliau, byddai’r celfi’n fyrddau ac yn feinciau, ac mi fyddai’r llawr yn gerrig, yn bridd neu’n blastr.
Canhwyllau brwyn a braster, neu weithiau cwyr, fyddai’n goleuo’r nos. Pan oedd angen goleuo ystafell fawr, byddai’r gannwyll ar ffurf powlen o olew neu fraster, â thamaid o raff ynddo fel pabwyr, a’r cyfan yn crogi mewn cylch haearn o drawst neu’r nenfwd. Byddai ffaglau hefyd yn cael eu gosod mewn cylchoedd haearn a oedd yn sownd i’r waliau.
Byddai gwres ystafell yn dod o le tân mawr, a’r gwres ei hun yn dod o’r fflamau, y coed tân wrth iddyn nhw losgi ac o gerrig y lle tân a fyddai’n cynhesu yn y fflamau. Roedd y mwg o’r tân yn codi i simnai neu dwll yn y to fyddai â drws dellt arno y byddai modd ei gau rhag y tywydd drwy dynnu llinyn.
Y Gegin – Byddai cegin castell yn y 13eg ganrif fel arfer wedi ei wneud o bren. Byddai lle tân yng nghanol y gegin, neu sawl tân ar gyfer rhostio cig ar gigwain neu ei ferwi mewn pair. Byddai dofednod (ieir, hwyaid ac ati) ac anifeiliaid wedi’u rhwymo yn ymyl yn barod i’w lladd a gardd y gegin yn llawn coed ffrwyth, llysiau a pherlysiau. Ambell waith byddai gan y castell bwll pysgod a hwnnw’n llawn o frithyll ac yn aml penhwyaid hefyd.
Llofftydd ac ystafelloedd byw – Byddai ystafell wely’r arglwydd a’i wraig ar lawr uchaf y castell. Byddai eu gwely’n ffrâm bren drom gyda ‘sbringiau’ o raff wedi’u plethu neu stribedi o ledr, a matres blu, cynfasau, cwilt, gorchuddion ffwr a chlustogau arno. Byddai’r arglwydd yn mynd â’i wely efo fo ar ei deithiau i gestyll a phlastai eraill. I hwyluso hynny byddai’r gweision yn ei dynnu’n ddarnau a’i lwytho i gar neu ar gefn ceffyl. Byddai’r gweision a’r milwyr yn cysgu yn y tyrau, y seleri, y neuadd, neu mewn penty y tu allan i’r brif adeilad. Byddai dŵr, y dŵr ymolch a’r dŵr yfed yn cael ei ddosbarthu o un man canolog ar bob llawr. Ambell waith byddai basn neu gafn bychan mewn cilfach wrth fynedfa’r neuadd ar gyfer golchi dwylo. Byddai tanc dŵr uwchben y basn – fyddai’n cael ei lenwi gan y gweision – a’r dŵr budr yn llifo i ffwrdd trwy bibell blwm. Byddai llif y dŵr wedi ei reoli gyda thapiau efydd neu gopr. Byddai rhywun yn cael bath mewn twb pren – yn yr ardd pan oedd hi’n gynnes ac y tu mewn yn agos i’r tân mewn tywydd oer.
Byddai arglwyddi’n cymryd y twb efo nhw hefyd pan oedden nhw’n teithio, ynghyd â gwas i lenwi’r bath. Byddai lle chwech yr arglwydd yn agos i’w ystafell wely ac fel arfer wedi ei osod yn nhrwch y wal. Pan nad oedd waliau’r ystafell yn ddigon trwchus, byddai’r lle chwech yn cael ei osod dros ymyl wal y castell uwchben nant neu ffos ddŵr.
Un o brif nodweddion castell a oedd yn perthyn i arglwydd fyddai ei gapel, a byddai’r arglwydd a’i deulu’n mynd yno bob bore i’r offeren.
Felly, erbyn diwedd y 13eg ganrif, roedd cestyll yn llefydd cymharol gyfforddus a phreifat. Lle byddai’r arglwydd gynt yn bwyta ac yn cysgu yn y neuadd fawr, roedd ganddo bellach ystafell iddo fo ei hun a’i wraig.
This post is also available in: English